Y Rhwydwaith
Y Rhwydwaith
Rhwydwaith Coetir Cymunedol ar Lawr Gwlad i Gymru
Dechreuodd taith Llais y Goedwig yn 2008 gan lond llaw o grwpiau Coetir Cymunedol a sylweddolodd y byddai eu heffaith, eu potensial i eirioli dros Goetiroedd Cymunedol ar bob lefel a’u ‘llais’ yn llawer mwy drwy weithio gyda’i gilydd – ac felly y digwyddodd Llais y Goedwig. Rydym yn parhau i gael ein llywio gan fwrdd o wirfoddolwyr yn cynnwys aelodau a chefnogwyr Grwpiau Coetiroedd Cymunedol ac yn parhau i lynu wrth ethos gwreiddiol LlyG, sef ymateb i anghenion a chyfeiriad ein haelodau.
O gymdeithas anghorfforedig o 18 aelod yn 2008, a chyda chymorth ysgrifenyddiaeth gan Coed Lleol, cynhaliodd Llais y Goedwig ei gyfarfod cyffredinol blynyddol a chynhadledd gyntaf yn 2009, a chafodd ei ymgorffori’n Gwmni Cyfyngedig drwy warant gyda statws dosbarthu nad yw er elw yn 2010 gydag un aelod ar hugain.
Dau nod syml sydd gan Llais y Goedwig:
- Hyrwyddo a chynrychioli grwpiau coetiroedd cymunedol yng Nghymru.
- Darparu cymorth a chefnogaeth i grwpiau a mentrau coetiroedd cymunedol.
I gyflawni’r amcanion hyn, rydym yn ceisio:
- Cefnogi RHWYDWEITHIO er mwyn rhannu gwybodaeth a phrofiad rhwng grwpiau coetiroedd cymunedol a phartneriaid eraill.
- Datblygu ADNODDAU i fodloni anghenion grwpiau coetiroedd cymunedol, gan gynnwys cyngor, cyhoeddiadau, cyfeirio, astudiaethau achos.
- Codi PROFFIL grwpiau coetiroedd cymunedol yn y gymuned coetiroedd ehangach ac ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol.
- CYFATHREBU â llunwyr polisïau i gyflawni mwy o ymgysylltiad a chefnogaeth ar gyfer cyfraniad cymunedau at goetiroedd ar bob lefel.
Cefnogaeth i dyfu’r rhwydwaith
Rydym yn ffodus iawn ein bod wedi cael cyllid ers 2008 gan: Amgylchedd Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyllid Craidd Llywodraeth Cymru, cyllid gan yr UE, Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru, a’r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru.
Rydym yn parhau i fod ynghlwm â phrosiectau, partneriaethau a rhaglenni ymchwil sy’n cynnig cyfleoedd i Grwpiau Coetiroedd Cymunedol dyfu a datblygu – gan sicrhau bod Rheolaeth Gymunedol ar goetiroedd yn dod yn rhan sefydledig o’r sector coedwigaeth yng Nghymru ac yn parhau i fod yn rhan ohono hefyd.