Skip to main content

Coetiroedd
   Cymunedol

Coetiroedd Cymunedol

Coetiroedd Cymunedol yng Nghymru

Mae coetiroedd wastad wedi bod yn rhan o’n cymunedau yng Nghymru; ffynhonnell tanwydd i’n haelwydydd, porthiant i’n hanifeiliaid, coed i adeiladu ein cartrefi, lle i’n plant chwarae a dysgu, a ffynhonnell meddyginiaeth a bwyd yn faeth i’n ffrindiau a’n teulu. Gyda bywyd yn y byd modern, mae’r cysylltiad hwn wedi pylu, mae ein coetiroedd wedi lleihau a’n mynediad wedi’i gyfyngu.

Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae mwyfwy o unigolion a grwpiau yn ailgysylltu cymunedau â’u coetiroedd. Yr enw ar y coetiroedd arbennig hyn yw Coetiroedd Cymunedol ac fel arfer cânt eu rheoli gan Grŵp Coetir Cymunedol. 

Os ymwelwch chi â choetir sydd dan reolaeth grŵp cymunedol, mae ‘naws’ wahanol yno. Mae hyn oherwydd bod y ffocws ar gynhyrchu sawl budd i’r gymuned a gofalu am y coetir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Felly, beth yn union yw coetir cymunedol? Gofynnwch a byddwch yn siŵr o gael ateb gwahanol bob tro!

Coetir Cymunedol yw unrhyw goetir lle mae gan y gymuned leol beth rheolaeth dros sut caiff y goedwig ei rhedeg neu ei rheoli. Mae rhai o’r amcanion sydd ynghlwm â rheoli’r coetir, neu bob un ohonynt, wedi’u hysgrifennu gan bobl leol sydd â diddordeb brwd yn y coetir hwnnw ac mae’r buddion a ddaw o reoli’r coetiroedd yn gyffredin.

Daw Coetiroedd Cymunedol o bob lliw a llun, o blanhigfeydd coniffer i goed llydanddail naturiol hynafol, o ychydig erwau i gannoedd o erwau, yn ardaloedd gwledig neu drefol a gall grwpiau coetiroedd cymunedol fod ar sawl ffurf. Nid oes diffiniad penodol ynghylch sut ddylid rhedeg neu reoli Coetir Cymunedol – oni bai y dylai fod yn addas at y diben o ran beth sydd dan sylw gan y grŵp hwnnw.

Gall y grŵp coetir fod yn berchen ar y coetir neu’n berchen arno drwy brydles, neu efallai y rheolir y coetir ar y cyd â sefydliad arall (y tirfeddiannwr fel arfer) drwy gytundeb rheoli.

Gall Grwpiau Coetiroedd Cymunedol sefydlu eu hunain mewn gwahanol ffyrdd; fel Cydweithfeydd, fel Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, fel Elusennau, fel Mentrau Cymdeithasol neu’n syml fel Grwpiau Gwirfoddol wedi’u Cyfansoddi.

Gall rheoli coetir er budd eich cymuned fod yn brofiad gwerth chweil – mae’n deimlad arbennig gweld coetir wedi’i esgeuluso yn dod yn ôl yn fyw ac yn cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi gan nifer o bobl, ond gall fod yn hynod anodd ymgymryd â gwaith o’r fath – mae cryn dipyn i’w ddysgu ac mae’n gofyn lefel sylweddol o ymdrech.

Mae Llais y Goedwig yma i gefnogi taith pob aelod.

Mae pob grŵp coetir cymunedol yn wahanol

Mae pob grŵp coetir cymunedol yn dechrau gyda’i gyfuniad unigryw o amgylchiadau, sy’n adlewyrchu’r coetir lleol, yr unigolion ynghlwm, a phryderon a chyfleoedd lleol. Ym mhob achos, ymddengys bod buddion ymgymryd â bod yn gyfrifol am goetir yn goresgyn y costau o ran yr amser a’r ymdrech sydd ei angen. Dyma rai o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros ymgymryd â choetir:

  • Awydd i weld coetiroedd lleol yn cael eu rheoli’n wahanol
  • Diddordeb neu angerdd cyffredin tuag at yr amgylchedd neu am ffordd o fyw gynaliadwy
  • Bygythiad i’r coetir lleol
  • Awydd sefydlu cyfleuster newydd ar gyfer gweithgareddau lleol
  • Gall cyfle drwy grant ysgogi cymuned i sefydlu grŵp
  • Ysbrydoliaeth gan grŵp sydd eisoes yn bodo

Mae’r mudiad coetiroedd cymunedol wedi bod yn tyfu’n raddol yng Nghymru

Ewch i’r adran adnoddau ar y wefan i gael darlun manwl o ddatblygiad coetiroedd cymunedol yng Nghymru, yn ogystal â chyfres o gyhoeddiadau Llais y Goedwig, megis y nodiadau cynghori ac astudiaethau achos a ysgrifennwyd gan aelodau Llais y Goedwig.


      

  

   





©2024 Llais y Goedwig