Skip to main content

Prosiectau
  Cyfredol

Prosiectau Cyfredol

Ers 2008, mae Llais y Goedwig wedi bod yn gweithio i gynrychioli buddion grwpiau coetiroedd cymunedol ar bob lefel yng Nghymru. Gwyddom fod gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a mentrau eraill yn ffordd wych o sicrhau ystod eang o gymorth a dylanwad ar gyfer ein haelodau. Mae’r bwrdd a’r staff yn gweithio’n galed i ddatblygu cysylltiadau a phartneriaethau sydd eisoes yn bodoli a magu rhai newydd yn y sectorau coedwigaeth a gwirfoddol ac amgylcheddol ehangach. Ein nod yw sicrhau bod Rheolwyr Cymunedol coetiroedd yn rhan werthfawr ac uchel ei pharch o’r sector coedwigaeth nawr ac yn y dyfodol.

Yn yr un modd ag y mae’r meysydd diddordeb a ffocws ein haelodau yn eang, felly hefyd mae cwmpas prosiectau a mentrau mae Llais y Goedwig wedi bod ynghlwm â’u cyflwyno. Rydym eisoes yn chwilio am ffyrdd newydd i gefnogi grwpiau aelodau i ddechrau a thyfu mewn ffordd gynaliadwy a chynhyrchiol sydd â ffocws ar rannu dysg a phrofiad ym meysydd ymchwil, gweithgarwch ymarferol, eiriolaeth polisi a llawer mwy!

Cyllid

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus dros y blynyddoedd i dderbyn cyllid i ddatblygu adnoddau i gefnogi Coetiroedd Cymunedol yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyllid craidd Llywodraeth Cymru a chronfeydd Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles, y Rhaglen Datblygu Gwledig a’r rhaglen FP 7 yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y prosiect Star-tree
Cliciwch ar y ddolen (isod/i’r dde) am ragor o wybodaeth ynghylch prosiectau a chyllidwyr cyfredol.

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae Llais y Goedwig yn cynnal cysylltiad cryf â’n chwaer-sefydliad yn yr Alban, yr Asiantaeth Coetiroedd Cymunedol ac yn cysylltu â sefydliadau yn y DU, megis Coed Cadw, Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd, Cyswllt Amgylchedd Cymru, Coed Lleol a Coed Cymru ar brosiectau ac ymarferion ar y cyd.
Mae’r partneriaethau yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd wedi’u hegluro yn y dolenni (isod/i’r dde)


      

  

   





©2024 Llais y Goedwig