Skip to main content

Ymunwch â Ni

Ymunwch â Ni

Ymunwch â Ni

Mewn undod mae nerth – ac mewn llais unfrydol mae sŵn. Rydym yn sefydliad aelodaeth am ddim sy’n gweithio i chi ac ar eich rhan chi.


Buddion i Aelodau

  • Cylchlythyr coetiroedd cymunedol misol – crynodeb o’r swyddi, cyllid, prosiectau, digwyddiadau a pholisïau diweddaraf i’ch mewnflwch neu drwy’ch blwch post.
  • Gwahoddiadau a thocynnau gostyngedig ar gyfer digwyddiadau coetiroedd cymunedol lleol a chenedlaethol Llais y Goedwig – yn cael eu cynnal ledled Cymru, gan aelodau, gan gynnwys y Cynulliad Blynyddol.
  • Rhwydweithio a chymorth drwy grŵp e-bost ar-lein coetiroedd cymunedol fforwm e-bost syml sy’n eich cysylltu chi â grwpiau eraill ledled Cymru, sy’n rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau neu rannu profiad, adnoddau a gwybodaeth.
Cyngor a chymorth gan goedwigwyr cymunedol profiadol ledled Cymru – a thrwy’r cydlynydd Rhwydwaith a Swyddogion Gwella Capasiti.  

Gallwn NI helpu!


    Mathau o Aelodaeth

    A ninnau’n sefydliad aelodaeth, rydym yn gryfach wrth i nifer ein haelodau gynyddu – boed yn sefydliadau sefydledig neu unigolion chwilfrydig, mae croeso i bawb.

    Mae dau fath o aelodaeth:

    • Aelodau Llawn – aelodau sy’n pleidleisio, sef grwpiau coetiroedd cymunedol
    • Aelodau Cyswllt – aelodau nad ydynt yn pleidleisio. Gallant fod yn grwpiau, sefydliadau neu unigolion sy’n awyddus i gefnogi nodau Llais y Goedwig.

    I ymuno â’r rhwydwaith yn rhad ac am ddim, llenwch un o’n ffurflenni aelodaeth ar-lein:

     



          

      

       





    ©2024 Llais y Goedwig