CoedNet
Coednet
Y llwyfan ar-lein ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau coetir Cymru
Mae CoedNet yn gyfeiriadur ar-lein newydd sy’n cysylltu gwneuthurwyr a chyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau coetir o Gymru, â phrynwyr o bob rhan o’r DU.
Hoffem i chi ymuno â ni!
Mae’r cyfeirlyfr ar-lein o fentrau coetiroedd cynaliadwy yng Nghymru – yn cael ei ddatblygu ar ôl i ymchwil ganfod bod gan lawer o grwpiau coetir cymunedol gynhyrchion neu wasanaethau i’w gwerthu, ond nad oeddent yn gwybod sut i’w hyrwyddo i’r farchnad. A – doedd dim un adnodd ar-lein oedd yn gwerthu cynnyrch neu wasanaethau coetir lleol, cynaliadwy o Gymru.
CoedNet yw’r llwyfan ar-lein hwnnw.
Mae Coednet yn rhan o’r adnoddau ar gyfer aelodau Llais Y Goedwig, yn ogystal â busnesau annibynnol o Gymru. Nid yw hyn yn ymwneud â chynhyrchion coetir yn unig. Gellir defnyddio CoedNet hefyd i arddangos gwasanaethau a phrofiadau hefyd, fel ysgolion coedwig, melino coed neu hyd yn oed gyrsiau yn y coed.
Mae tudalen restru safonol ar y wefan ar gael yn rhad ac am ddim.
Mae opsiwn i uwchraddio i gael rhestr well, cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd, gofynnwn i bob busnes sy’n ymuno â’r llwyfan gytuno i’n datganiad cynaliadwyedd sy’n nodi bod eich busnes/menter hefyd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a bod ganddynt bolisïau a chynlluniau priodol ar waith.
Os hoffech ymuno â’r gymuned wych hon o werthwyr cynaliadwy cynhyrchion a gwasanaethau coetir, llenwch y ffurflen ar-lein yma, ac anfonwch luniau o’ch cynnyrch / busnes atom trwy e-bost (cyfarwyddiadau ar y ffurflen).
Os hoffech gael mwy o wybodaeth yn gyntaf, anfonwch e-bost at gftw@llaisygowedwig.org.uk