Creu Coetir
Cymunedol
Creu Coetir Cymunedol
Dod Ynghyd fel Grŵp
Pan mae cymuned yn penderfynu ei bod am gyfrannu fwy at ofalu am goetir lleol, mae’n dechrau ar daith werth chweil ond hynod heriol ar adegau.
Sefydlir coetiroedd cymunedol am sawl rheswm gwahanol; i arbed coetir sydd dan fygythiad o gael ei werthu; er mwyn i’r pren ddarparu mwy o fuddion lleol neu i adfer coetir sydd wedi’i esgeuluso. Ym mhob achos, mae grŵp o’r gymuned leol wedi penderfynu ei fod eisiau mwy o reolaeth dros wneud penderfyniadau yn ymwneud â’r coetir.
Caiff rhai grwpiau coetiroedd cymunedol eu creu gan ‘gymuned o ddiddordeb’ – er enghraifft grŵp o bobl sydd ag ymrwymiad cryf i bryderon amgylcheddol. Caiff grwpiau eraill eu creu gan gymuned ehangach o bobl yn byw yn yr un lle. Sut bynnag y caiff y grŵp coetir cymunedol ei sefydlu, po fwyaf o gefnogaeth leol y gallwch chi ei denu, po gryfaf fydd eich grŵp.
Mae’n bwysig dod ynghyd i benderfynu a oes digon o awydd yn lleol i gynnal grŵp yn yr hirdymor (y tu hwnt i gyllid uniongyrchol y prosiect). Efallai y bydd rhai cymunedau yn penderfynu bod y gost o deithio i ymweld â’r goedwig yn rheolaidd yn rhy ddrud, neu efallai y byddant yn penderfynu defnyddio coedwig leol yn fwy hamddenol a gadael i’r perchennog ei rheoli.
Os ydych yn penderfynu mynd amdani, yna sicrhewch eich bod yn datblygu peth dealltwriaeth gyffredin o fewn y grŵp ynghylch eich nodau – ceisiwch gytuno ar gonsensws cyffredinol ynghylch pam ydych chi eisiau gwarchod y coetir. Yn raddol wedyn, gellir dechrau gwneud penderfyniadau yn ymwneud â Chyfansoddiad i’r grŵp a strwythur cyfreithiol. Mae sawl opsiwn i’w ystyried wrth benderfynu ar strwythur cyfreithiol (gan gynnwys statws elusennol, grŵp wedi’i gyfansoddi, cwmni buddiannau cymunedol etc). Mae arweiniad ynghylch hyn, a ffactorau eraill i’w hystyried wrth sefydlu a rheoli grŵp coetir cymunedol i’w gael gan aelodau Llais y Goedwig yn Adnoddau, gan gynnwys nodyn cynghori Llais y Goedwig ‘Cyflwyniad i Grwpiau Coetir Cymunedol yng Nghymru’.
Cyfleoedd Coetiroedd ledled Cymru
Mae sawl cyfle i sefydlu coetiroedd cymunedol ledled Cymru. Gall rhai grwpiau brynu coetiroedd bach sydd wedi’u hesgeuluso am bris rhesymol, ac mae rhai wedi llwyddo i godi symiau sylweddol o arian er mwyn prynu coetiroedd cynhyrchiol mawr.
Mae nifer o asiantaethau yn awyddus i annog y gymuned i gyfrannu fwy at eu coetiroedd ac wedi sefydlu cynlluniau pwrpasol i alluogi’r grwpiau greu coetiroedd cymunedol ar eu tir, yn aml drwy gytundebau rheoli. Mae’r tirfeddianwyr hyn yn cynnwys: Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Coed Cadw, perchnogion coetiroedd preifat a Ymddiriedolaeth Natur Cymru.
Gweithio gyda Thirfeddianwyr
Mae Llais y Goedwig yn hapus i gynnig cyngor ar sail achos wrth achos. Cysylltwch â Llais y Goedwig drwy’r Cydlynydd Rhwydwaith am gymorth, gan gynnwys cyflwyniadau.
Erbyn hyn mae gan Adnoddau Llais y Goedwig, sydd wedi’u creu gan aelodau, fwyfwy o gyhoeddiadau defnyddiol gan Llais y Goedwig a dogfennau eraill, gan gynnwys cronfa ddata o dirfeddianwyr, a nodyn cynghori ‘Rheoli coetiroedd gyda chymuned – canllaw i dirfeddianwyr’.
Welsh Government Woodlands
Dod yn fuan …
Coetiroedd yr Awdurdod Lleol
Mae gan nifer o awdurdodau lleol ledled Cymru ddaliadau sylweddol o goetiroedd. Nid oes un cynllun pwrpasol ar gyfer cyfraniad cymunedau at reoli coetiroedd awdurdodau lleol o’r un math â’r cynllun sydd wedi’i ddatblygu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn 2014, cysylltodd Llais y Goedwig a’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru i gael dealltwriaeth well am eu sefyllfa o ran cyfraniad y gymuned at reoli eu coetiroedd. Mae’r sefyllfa yn amrywio’n fawr ond bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn croesawu cyfraniadau gan gymunedau lleol ac yn awyddus i ymgymryd â chytundebau partneriaeth.
Coed Cadw
Mae Llais y Goedwig yn gweithio mewn partneriaeth â Coed Cadw yng Nghymru. Mae Coed Cadw hefyd yn awyddus i annog cymunedau i gyfrannu fwy at ddefnyddio a rheoli coetiroedd sydd yn eu meddiant yng Nghymru. Un o nodau strategol Coed Cadw erbyn hyn yw hyrwyddo ‘diwylliant o goetiroedd cymunedol’ ar draws y Deyrnas Unedig.
Tirfeddianwyr Coetiroedd Preifat
Mae tirfeddianwyr preifat yn hapus i grwpiau cymunedol gyfrannu a chaniatáu iddynt gymryd rhan mewn rheoli coetiroedd mewn rhyw ffordd. Mae angen cael trefniadau clir ar waith rhwng y grŵp coetir cymunedol a’r perchennog, er mwyn sicrhau bod yswiriant iechyd a diogelwch priodol ar waith er enghraifft.
Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru
Mae chwe Ymddiriedolaeth Natur sy’n gweithio ledled Cymru gyfan. Gyda’i gilydd, mae ganddynt 23000 o aelodau, maent yn rheoli 216 o warchodfeydd natur ac yn cwmpasu dros 8,000 hectar. Mae pob Ymddiriedolaeth yn hapus i grwpiau coetir cymunedol gyfrannu, ac mae rhai perthnasoedd gwaith da yn bodoli, megis Coedwig Dolforwyn Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, a sawl Ymddiriedolaeth yn aelodau cyswllt Llais y Goedwig, ond nid oes prosesau penodol, mae’n amrywio yn dibynnu ar flaenoriaethau ac adnoddau pob Ymddiriedolaeth.