CommuniTree
CommuniTree
Cefnogi datblygiad meithrinfeydd coed cymunedol ledled Cymru
Ers 2020, rydym wedi bod yn gweithio gyda Coed Cadw (The Woodland Trust) i gyflawni’r Prosiect CommuniTree sy’n parhau eleni (2023) gyda chefnogaeth gan Loteri Côd Post y Bobl.
Mae CommuniTree wedi cefnogi:
Arolygon manwl i ganfod diddordeb, profiad ac adnoddau o fewn coetiroedd cymunedol a phreifat yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae gennym gronfa ddata o bron i 100 o ymarferwyr sydd â meithrinfeydd bychan a gwahanol feysydd o arbenigedd a phrofiad sy’n rhannu gwybodaeth/sgiliau a chynnydd trwy ddigwyddiadau a gweithdai.
Datblygu adnoddau ar gasglu a storio hadau, rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n ymwneud â Deunyddiau Atgenhedlol Coedwigoedd (FRM) a datblygu meithrinfeydd coed bychan.
Rhwymedigaethau cyfreithiol wrth gasglu hadau coed yng Nghymru |
Rydym hefyd wedi datblygu’r canllawiau sydyn hyn mewn perthynas â chasglu hadau sy’n crynhoi materion allweddol:
A phoster sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch adnabod a chasglu gwybodaeth am rai o’r hadau coed mwyaf cyffredin yn y DU.
Lawrlwythwch PDF o’r poster yma
Diwrnodau casglu hadau gyda Choetiroedd Cymunedol a grwpiau gwirfoddol.
Rydym wedi cefnogi 12 o ddiwrnodau casglu hadau coed gan ddefnyddio’r adnoddau a ddatblygwyd gan Communitree.
Digwyddiadau hyfforddi a rhannu gwybodaeth i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd rhwydweithio ymhlith grwpiau, unigolion a sefydliadau rhagweithiol.
Cafodd y gweithdai casglu a storio hadau a gynhaliwyd yn ystod hydref 2021 eu canmol mewn gweithdai datblygu Meithrinfeydd Coed a sesiynau rhannu sgiliau yn ystod Gwanwyn 2022 gyda meithrinfeydd sefydledig a meithrinfeydd newydd ledled Cymru.
Fe wnaethom hefyd gynnal gweithdy cerdded gyda chasglwr hadau proffesiynol i drosglwyddo profiad uniongyrchol o’r sgiliau casglu hadau sydd eu hangen ar gyfer meithrinfa fasnachol. Datblygwyd y prosiect ymhellach yn 2022/23 gyda hyfforddiant wedi’i dargedu ar gyfer y rhai sy’n dymuno dechrau a datblygu meithrinfeydd coed bychan. Roedd hyn yn cynnwys bioddiogelwch a gwaith pellach ar gofrestru standiau hadau, gan ddarparu cymorth ar gyfer cydweithio ar sail ranbarthol (Magu Coed) ac ar gasglu, tyfu a gwerthu hadau.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio Rhaglen CommuniTree 2023/24.
Magu Coed
Mae datblygu rhwydwaith hadu a thyfu coed yn rhan o’r prosiect CommuniTree. Yn 2022, lansiwyd Rhwydwaith Magu Coed (tyfu coed) – ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn tyfu, codi, plannu a gofalu am goed brodorol yng Nghymru. Mae gennym restr bostio sy’n ehangu o bron i 200 o arddwyr, coedwigwyr, elusennau, busnesau, swyddogion y cyngor, a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Grwpiau WhatsApp Magu Coed:
Os hoffech chi gymryd mwy o ran, beth am ymuno â’r rhwydweithiau WhatsApp rhanbarthol i rannu gwybodaeth a chwestiynau cyffredinol, cyfnewid hadau neu gwrdd yn rhanbarthol.
I ymuno, cliciwch ar y dolenni
Gogledd Cymru: Magu Coed Gogleddol
De Ddwyrain Cymru: Coed cynhenid 303 SE
De-orllewin Cymru: Coed cynhenid 303
Canolbarth Cymru: Magu Coed Canolbarth Cymru