Maniffesto
Llais y Goedwig
Maniffesto
Bod yn llais coetiroedd cymunedol yng Nghymru
Credwn ei bod hi’n hynod bwysig bod llais coetiroedd cymunedol yn cael ei gynnwys mewn trafodaethau yn ymwneud â datblygiad polisïau sy’n effeithio ar y coetiroedd yr ydym yn eu hadnabod a’u caru.
Rydym hefyd yn credu y gallwn wneud mwy ar gyfer coetiroedd cymunedol yng Nghymru os ydym yn dod ynghyd ac yn siarad gyda llais cryf.
Mae Llais y Goedwig yn cadw ar flaen yr hyn sy’n digwydd yn Llywodraeth Cymru, ac yn ceisio deall pryderon yr aelodau a bwydo safbwyntiau ar lawr gwlad i’r dadleuon polisi yn amserol ac adeiladol.
Mae’r bwrdd a’r staff yn cadw ar flaen y datblygiadau polisi drwy gysylltu â rhwydweithiau eraill yng Nghymru – megis Cyswllt Amgylchedd Cymru a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn ogystal â sefydliadau allweddol eraill yn y sector coedwigaeth.
Ymgysylltiad Polisi
Mae’n bwysig bod y sylwadau mae Llais y Goedwig yn eu gwneud i lunwyr polisïau yn seiliedig ar wybodaeth go iawn ynghylch coetiroedd cymunedol, a gafwyd drwy ymgynghori ag aelodau Llais y Goedwig neu drwy gynnal holiaduron i gasglu tystiolaeth.
Rydym yn defnyddio tystiolaeth yr ydym wedi’i chael gan aelodau a dealltwriaeth gan ein Grŵp Cynghori ar Bolisïau (grŵp o aelodau a chefnogwyr sydd â diddordeb ac sy’n meddu ar brofiad o eirioli polisïau) i wneud ymatebion ar y cyd i ymgynghoriadau ac adolygiadau polisi.
Gall aelodau gael y diweddaraf ynghylch ein gwaith ar Bolisïau drwy ddarllen Blogiau Polisi rheolaidd yn y cylchlythyr ac ar y wefan, neu drwy gymryd rhan weithredol mewn eiriolaeth polisi drwy ymuno â’r Grŵp Cynghori ar Bolisïau.
Coetiroedd a choedwigoedd ar gyfer pobl Cymru
Mae coed, coetiroedd a choedwigoedd Cymru yn chwarae rôl allweddol o ran cynnal ein cymunedau, ein heconomïau lleol a’n hamgylchedd naturiol. Mae coetiroedd wrth wraidd diwylliant a chymdeithas Cymru. Un o allbynnau cyntaf yn ymwneud â Pholisïau yn nyddiau cynnar Llais y Goedwig yn 2011 oedd cynhyrchu Maniffesto ar gyfer Coedwigoedd Cymru.
Mae’r Maniffesto yn ddatganiad clir o sut allai coedwigoedd a choetiroedd wasanaethu pobl Cymru orau. Mae wedi’i ysgrifennu i’n helpu ni i gyd wireddu potensial coetiroedd Cymru – ar gyfer ein cymunedau ac ar gyfer Cymru gryfach.
Mae pobl Cymru, drwy Lywodraeth Cymru, yn berchen ar bron i 40% o goetiroedd Cymru, sy’n cwmpasu 6% o arwyneb tir Cymru. Rydym yn credu bod potensial i’r cyhoedd a chymunedau gyfrannu fwy at reoli a defnyddio adnoddau coetiroedd.
Mae’r Maniffesto yn ffurfio sylfaen ymgysylltiad LlyG â llunwyr polisïau
Mewn gair, neges y Maniffesto yw bod aelodau LlyG eisiau i goedwigoedd a choetiroedd Cymru:
- Fod yn rhan o dirlun iach a bio-amrywiol
- Darparu deunyddiau ac adnoddau i fodloni anghenion lleol
- Cynnig cyfleoedd gwaith lleol
- Cysylltu pobl â’r byd naturiol
- Bod yn ffocws ar gyfer llesiant cymunedol
- Cyfrannu at ddysgu a datblygu sgiliau
- Ymgysylltu â chymdeithas sifil
I gyflawni hyn, bydd yn hanfodol:
- Cydnabod y cyfraniad y gall coetiroedd cymunedol ei wneud at ddatblygiad cynaliadwy lleol ac ymdeimlad o iechyd a llesiant
- Rhoi llais i gymunedau Cymru o ran pennu polisïau a dosbarthiad adnoddau
- Mewnosod y cysyniad o ‘leoliaeth’ ym mhrosesau cynllunio ar raddfa cymunedau gweithredol (h.y. o fewn pellter cerdded)
- Ennill lefel llawer uwch o gydweithio rhwng perchnogion coedwigoedd a choetiroedd, cymunedau lleol a defnyddwyr na’r presennol, gyda mwy o bwyslais ar bartneriaethau hirdymor yn hytrach na chynlluniau tymor byr.