CG Coetir
Cymunedol
Cefnogi Grwpiau
Coetir Cymunedol
Cefnogi Grwpiau Coetir Cymunedol
Mae grwpiau coetir cymunedol yn weithredol ledled Cymru – mae rhwydwaith Llais y Goedwig yn galluogi grwpiau i fod mewn cyswllt â’i gilydd, rhannu profiadau ac adnoddau, clywed y newyddion diweddaraf a helpu ei gilydd i ddatrys problemau ac ymgysylltu â datblygu polisïau.
Er ein bod yn tyfu, rydym yn fudiad gweddol ifanc a gwyddom nad oes gan nifer o bobl lawer o wybodaeth ynghylch coetiroedd cymunedol – yn arbenigwyr coedwigaeth a’r cyhoedd.
Craidd gwaith Llais y Goedwig yw cefnogi Grwpiau Coetir Cymunedol i reoli eu coetiroedd lleol. Gwnawn hyn drwy:
Gynnig cyngor a chymorth drwy ein gwasanaeth ymholi – gofynnwch gwestiwn neu gwnewch gais am gymorth drwy’r dudalen cysylltiadau a bydd Hwylusydd y Rhwydwaith yn cysylltu â chi i’ch arwain yn y cyfeiriad cywir.
Ceisio cyllid i Swyddogion Datblygu Rhanbarthol weithio gyda grwpiau newydd a sefydledig ar lefel leol – gwireddu’r cyngor a’r ysbrydoliaeth sydd ar gael yn adran Dolenni ac Adnoddau’r wefan – boed ydych yn grŵp newydd sydd eisiau cymorth i sefydlu grŵp neu drefnu cytundeb rheoli, neu’n grŵp sefydledig sydd eisiau cymorth a hyfforddiant mewn technegau rheoli neu gyfeiriad newydd i’r grŵp, gall ein Swyddogion Datblygu eich helpu.
Trefnu digwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio lleol a rhanbarthol – digwyddiadau yn ôl thema wedi’u trefnu gan aelodau. Mae digwyddiadau rhwydweithio yn ffyrdd cyfeillgar ac ymarferol i bobl glywed am goetiroedd cymunedol, rhannu sgiliau a phrofiad, meddwl am syniadau newydd a chael clywed gan yr arbenigwyr. Os hoffech gynnal digwyddiad rhwydweithio Llais y Goedwig neu os ydych yn awyddus i godi proffil coetiroedd cymunedol eich ardal ac angen ychydig o gymorth, cysylltwch â ni drwy’r dudalen cysylltiadau.
Codi proffil coetiroedd cymunedol ymhlith y rhai sy’n llunio polisïau. Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr a’r tîm o staff yn cadw ar flaen datblygiadau o ran polisïau ac yn mynychu cyfarfodydd lle mae’n bwysig bod ‘llais coetiroedd cymunedol’ yn cael ei glywed. Mae codi ymwybyddiaeth o goetiroedd cymunedol mewn digwyddiadau megis Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn bwysig, yn ogystal â gwahodd gwleidyddion a llunwyr polisïau i’n Cynulliad Cenedlaethol blynyddol ein hunain i gael blas ar ehangder y rhwydwaith mewn coetir.
Mae magu partneriaethau â sefydliadau sy’n cefnogi coetiroedd cymunedol yng Nghymru hefyd yn allweddol i ‘roi’r gair ar led’ ynghylch coetiroedd cymunedol.
Rhoi’r gair ar led ynghylch coetiroedd cymunedol yn y goedwig ac mewn cyfarfodydd ac ar-lein. Dilynwch Llais y Goedwig ar Facebook a Twitter.