Creu gwerth mewn cynhyrchion a gwasanaethau o’r coetiroedd
Mae Nwyddau o’r Goedwig yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Llais y Goedwig ac mae’n agored i grwpiau coetir cymunedol (GCC), perchnogion coetiroedd ac unrhyw un sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau coetir cynaliadwy yng Nghymru.
Un o brif nodweddion GCC yw eu bod i gyd yn datblygu o’u set unigryw eu hunain o amgylchiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd lleol.
Mewn ymateb i’r hinsawdd economaidd, rydym wedi canfod bod GCC a pherchnogion coetiroedd bach yn cynhyrchu ac yn gwerthu ‘Nwyddau o’r Coed’ yn gynyddol, e.e.– pren ar gyfer adeiladu, llochesi ac adeiladau, coed tân, siarcol, cynhyrchion prysgwydd, helyg ar gyfer basgedi, bwydydd gwyllt a gwasanaethau fel teithiau cerdded fforio, ysgolion coedwig, cyrch ffyngau, priodasau a gweithgareddau hamdden eraill.
Mae’r prosiect Nwyddau o’r Coed yn cael ei ariannu gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru i ddatblygu a threialu llwyfan marchnata ar-lein ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau o Goetiroedd Cymru.
Os ydych chi’n Grŵp Coetir Cymunedol neu’n berchennog coetir bach neu’n rhywun sy’n gallu cynnig cynhyrchion neu wasanaethau coetir (neu’n adnabod rhywun sydd yn) ac a fyddai â diddordeb cael cymorth i farchnata a gwerthu eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau, neu os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect, cysylltwch â gftw@llaisygoedwig.org.uk i ofyn cwestiynau a chael eich ychwanegu at restr y prosiect.