Skip to main content

Dogfen Polisïau Gwefan Llais y Goedwig

 

POLISI CWCIS

CYFLWYNIAD

Mae’r Polisi Cwcis hwn yn amlinellu sut rydym yn defnyddio cwcis ar wefan www.llaisygoedwig.org.uk. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i delerau’r polisi hwn ac yn cydsynio i’n defnydd o gwcis. Fodd bynnag, gallwch ymarfer eich rhyddid i ddewis ac analluogi neu ddileu cwcis yn eich porwr ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, gall datgysylltu cwcis effeithio’n andwyol ar ymarferoldeb y wefan hon a’ch profiad o ymweld â hi.

BETH YW CWCIS?

Darnau bach o ddata yw cwcis sydd mewn ffeiliau testun sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais arall sy’n cael eu galluogi gan y Rhyngrwyd (megis ffôn symudol) pan fydd gwefannau’n cael eu llwytho mewn porwr. Fe’u defnyddir yn helaeth i’ch ‘cofio’ chi a’ch dewisiadau, naill ai ar gyfer un ymweliad (gyda ‘chwci sesiwn’) neu ar gyfer ymweliadau ailadroddus lluosog (gyda ‘chwci parhaus’). Maent yn sicrhau profiad cyson ac effeithlon i ymwelwyr â gwefannau, ac yn cyflawni swyddogaethau hanfodol megis caniatáu i ddefnyddwyr gofrestru ac aros wedi’u mewngofnodi, neu ddewis iaith. Gall cwcis gael eu gosod gan y safleoedd rydych chi’n ymweld â nhw (a elwir yn ‘gwcis parti cyntaf’), neu gan bartïon ar wahân i berchennog y wefan, fel y rhai sy’n gwasanaethu cynnwys neu’n darparu gwasanaethau hysbysebu neu ddadansoddeg ar y wefan (gelwir y rhain yn ‘gwcis trydydd parti’).

Bydd y rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu i chi reoli sut mae cwcis yn eu trin, p’un ai i’w derbyn neu eu gwrthod, a pha mor hir i’w storio ar eich cyfrifiadur. Mae porwyr hefyd yn eich galluogi i ddileu cwcis ar unrhyw adeg. Mae pob porwr yn gwneud hyn yn wahanol, ond os oes gennych bryderon am eich preifatrwydd a’ch diogelwch o ran cwcis, yna chwiliwch am y ddogfennaeth ‘help’ ar gyfer eich porwr penodol.

SUT RYDYM YN DEFNYDDIO CWCIS AR EIN GWEFAN

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithrediad arferol y wefan. Gall datgysylltu cwcis effeithio ar y ffordd y mae’r wefan yn gweithio a’ch atal rhag cael mynediad ati neu rannau ohoni.

Mae’r wefan hon yn defnyddio pedwar math o gwcis:

  1. Cwcis sydd eu hangen ar gyfer gweithrediad arferol WordPress
  2. Cwcis a ddefnyddir gan ein darparwr thema WordPress, YooTheme
  3. Cwcis a ddefnyddir gan ein hategyn iaith, WPML.
  4. 4. Cwcis a ddefnyddir gan Google Analytics i gasglu gwybodaeth am ddefnydd ymwelwyr

Nid oes cwcis eraill yn cael eu defnyddio gan y wefan hon. Nid ydym yn defnyddio cwcis at ddibenion hysbysebu. Rydym yn trin yr holl ddata a gesglir gan y cwcis hyn yn sensitif.

CYSYLLTU Â NI

Os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â’n Polisi Cwcis neu unrhyw fater arall, gallwch ysgrifennu atom i’n cyfeiriad post:

Llais y Goedwig
Uned 1, Parc Eco Dyfi
Machynlleth
Powys
SY20 8AX

Neu, os hoffech anfon e-bost atom, defnyddiwch ffurflen gyswllt y wefan hon. Cyfeiriad gwe’r ffurflen gyswllt yw: www.llaisygoedwig.org.uk/cysylltu-a-ni/

 

     

    POLISI PREIFATRWYDD

    CYFLWYNIAD

    Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r modd yr ydym yn casglu, prosesu, ac yn defnyddio’r wybodaeth bersonol gyfyngedig yr ydym ni’n ei chasglu amdanoch chi ar ein gwefan, www.llaisygoedwig.org.uk. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i delerau’r polisi hwn.  Mae Llais y Goedwig wedi ymrwymo i ddiogelwch ac i warchod eich preifatrwydd. Pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni, byddwn yn trin y wybodaeth honno yn unol â’r polisi hwn, deddfwriaeth Diogelu Data gyfredol y DU, Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data y DU (GDPR y DU), ac arferion gorau’r Rhyngrwyd.

    YR WYBODAETH YR YDYM YN EI CHASGLU

    Gallwch ddefnyddio’r rhan fwyaf o’r nodweddion ar y wefan hon heb ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Mae ychydig o nodweddion dewisol, megis y ffurflen gyswllt, yn gofyn i chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth bersonol (e.e. enw, cyfeiriad e-bost, pwnc, a neges). Mae’r ffurflen gyswllt yn cael ei chynnal gan y wefan hon ac mae’r holl wybodaeth a drosglwyddir gan y ffurflen hon wedi’i hamgryptio.

    Yn ogystal, mae www.llaisygoedwig.org.uk yn defnyddio’r gwasanaeth Google Analytics i gasglu gwybodaeth ynghylch y defnydd y mae ymwelwyr yn ei wneud o’n gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu gan Google Analytics i ddeall faint o ymwelwyr sy’n ymweld â’n gwefan a pha dudalennau/elfennau sydd fwyaf poblogaidd. Mae cyfrif gwasanaeth Google Analytics yn eiddo i ni ac nid ydym yn rhannu unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chasglu. Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis er mwyn nodi niferoedd ymwelwyr. Mae’n bosibl i chi analluogi cwcis fel na ellir eich adnabod. Gweler ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth am gwcis ac olrhain. Gweler y dolenni canlynol am ragor o wybodaeth am Delerau Gwasanaeth Google Analytics ac ymrwymiad Google Analytics i breifatrwydd a diogelwch eich data.

    Telerau Gwasanaeth Google Analytics (GB)
    Preifatrwydd a Diogelwch Data Google Analytics

    Drwy roi eich data personol i ni, rydych yn cytuno i ni gadw a phrosesu eich data fel y disgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gweler yr adran Rheoli Eich Gwybodaeth Yr Ydym Yn Ei Dal am fanylion ynghylch tynnu caniatâd yn ôl.

    CWCIS

    Darnau bach o ddata yw cwcis sydd mewn ffeiliau testun sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais arall sy’n cael eu galluogi gan y Rhyngrwyd (megis ffôn symudol) pan fydd gwefannau’n cael eu llwytho mewn porwr. Fe’u defnyddir yn helaeth i’ch ‘cofio’ chi ac unrhyw opsiynau y byddwch yn eu dewis o ran cael mynediad i’r safle (megis iaith). Gall cwcis barhau naill ai ar gyfer un ymweliad (gyda ‘chwci sesiwn’) neu ar gyfer ymweliadau ailadroddus lluosog (gyda ‘chwci parhaus’). Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithrediad arferol y wefan yn unig. I gael gwybod mwy am gwcis a sut rydym yn eu defnyddio ar www.llaisygoedwig.org.uk darllenwch ein Polisi Cwcis.

    SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH GWYBODAETH BERSONOL

    Yn bennaf, rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth yr ydym ni’n ei chasglu ar  www.llaisygoedwig.org.uk i gyfathrebu â chi. Rydym yn defnyddio’r ffurflen gyswllt ar y wefan hon i gyfathrebu’n uniongyrchol ag unrhyw un sy’n llenwi ac yn cyflwyno’r ffurflen. Trwy roi eich gwybodaeth i mewn i’n ffurflen gyswllt, rydych yn cydsynio i ni gysylltu â chi a defnyddio’r manylion y byddwch yn eu darparu at y dibenion yr ydym wedi’u hamlinellu yn y ddogfen hon. Ni fyddwn byth yn trosglwyddo nac yn gwerthu eich gwybodaeth i barti arall, oni bai ei bod yn ofynnol i wneud hynny yn ôl y gyfraith. Gallwch ofyn am dynnu eich gwybodaeth o’n systemau ar unrhyw adeg. Gweler yr adran ar Reoli Eich Gwybodaeth Yr Ydym Yn Ei Dal am fanylion ynghylch sut i dynnu eich caniatâd yn ôl i ni ddal a defnyddio eich gwybodaeth.

    DATGELU A CHADW EICH DATA

    Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhoi eich data i unrhyw drydydd parti na chyfeirir atynt yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag y tybir ei bod yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau cyfreithlon i chi. Gellir tynnu gwybodaeth bersonol a anfonir atom yn ôl ar unrhyw adeg. Gweler yr adran ar Reoli Eich Gwybodaeth Yr Ydym Yn Ei Dal am ragor o wybodaeth ynghylch sut i dynnu caniatâd yn ôl.

    Yn olaf, gellir datgelu eich gwybodaeth yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, er enghraifft, os gofynnir amdanynt gan yr awdurdodau i atal twyll neu droseddau eraill.

    SUT RYDYM YN DIOGELU EICH GWYBODAETH BERSONOL

    Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif ac wedi cymryd mesurau priodol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Lle rydym yn dal gwybodaeth ein hunain, fe’i cedwir ar systemau sy’n cael eu diogelu gyda systemau diogelwch electronig ac fe wneir copïau wrth gefn ohoni’n rheolaidd.

    CYNNWYS WEDI’I WREIDDIO O WEFANNAU ERAILL

    Gall erthyglau ar y safle hwn gynnwys cynnwys sydd wedi’i wreiddio (e.e. fideos, delweddau, erthyglau ac ati) o wefannau trydydd parti eraill. Mae cynnwys wedi’i wreiddio o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr union un ffordd â phe baech wedi ymweld â’r wefan arall. Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, a defnyddio systemau olrhain trydydd parti ychwanegol i fonitro’ch rhyngweithio â’r cynnwys hwnnw sydd wedi’i wreiddio.

    Nid ydym yn gyfrifol am y data y mae’r gwefannau hyn yn ei gasglu, na’r modd y maent yn defnyddio eich data. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’r modd y mae’r gwefannau hyn yn casglu ac yn trin eich data, edrychwch ar eu Telerau ac Amodau Gwefan a Pholisïau Preifatrwydd am wybodaeth bellach.

    RHEOLI EICH GWYBODAETH YR YDYM YN EI DAL

    Mae gennych hawl i weld copïau o’r holl ddata personol a gedwir gennym ac i ddiwygio, cywiro, neu ddileu data o’r fath. Gallwch dynnu’n ôl eich caniatâd i ni ddal a defnyddio eich gwybodaeth ar unrhyw adeg. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon neu os ydych yn dymuno tynnu’n eich caniatâd i ddal a defnyddio eich data, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen gyswllt (www.llaisygoedwig.org.uk/cysylltu-a-ni/). Ysgrifennwch ‘Caniatâd Gwybodaeth’ ym mlwch testun y ffurflen gyswllt.

    Byddwn yn ymateb i bob cais am ‘Ganiatâd Gwybodaeth’ cyn gynted â phosib, fel arfer, erbyn y diwrnod gwaith nesaf. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddelio â’ch ymholiad, fodd bynnag, efallai y bydd eithriadau lle mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gadw rhywfaint o ddata neu wybodaeth.

    CWYNION

    Os ydych yn dymuno cwyno am ein defnydd o’ch data personol, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen gyswllt (www.llaisygoedwig.org.uk/cysylltu-a-ni/). Ysgrifennwch ‘Cwyn’ os gwelwch yn dda ym mlwch testun y ffurflen gyswllt. Mae’n bosib cysylltu â ni drwy’r post hefyd. Gweler yr adran Cysylltu â Ni ar gyfer ein cyfeiriad post.

    Yn ogystal â chwyno’n uniongyrchol i ni, mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (https://ico.org.uk/). Dyma’r corff sy’n gyfrifol am ddiogelu data personol yn y DU.

    NEWIDIADAU I’R POLISI

    Efallai y byddwn yn diweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn yn achlysurol drwy bostio fersiwn newydd ohono ar  ein gwefan. Mae’n bosib y byddwn ni’n gwneud newidiadau i’r polisïau hyn oherwydd penderfyniadau busnes neu newidiadau mewn deddfwriaeth. Mae er budd i chi wirio’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn gyfforddus gydag unrhyw newidiadau a wnaed.

    Y Polisi Preifatrwydd hwn, ynghyd â’n Polisi Cwcis a’n Telerau ac Amodau Gwefan yw’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan. Mae’r polisïau hyn yn disodli’r holl gytundebau blaenorol mewn perthynas â’ch defnydd o’r wefan hon.

    CYSYLLTU Â NI

    Os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â’n Polisi Cwcis neu unrhyw fater arall, gallwch ysgrifennu atom i’n cyfeiriad post:

    Llais y Goedwig
    Uned 1, Parc Eco Dyfi
    Machynlleth
    Powys
    SY20 8AX

    Neu, os hoffech anfon e-bost atom, defnyddiwch ffurflen gyswllt y wefan hon. Cyfeiriad gwe’r ffurflen gyswllt yw: www.llaisygoedwig.org.uk/cysylltu-a-ni/

     

       

      TELERAU AC AMODAU’R WEFAN

      CYFLWYNIAD

      Mae’r Telerau ac Amodau isod yn llywodraethu eich defnydd o wefan www.llaisygoedwig.org.uk. Trwy barhau i gael mynediad i’n gwefan, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn yn llawn. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio ein gwefan. Nid yw ein Polisi Preifatrwydd a’n Polisi Cwcis yn rhan o’r Telerau ac Amodau hyn ond maent yn rhan o’ch caniatâd pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwefan. Darllenwch nhw.

      Mae’r term www.llaisygoedwig.org.uk neu ‘ni’ neu ‘rydym’ yn cyfeirio at berchennog y wefan. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu wyliwr ein gwefan.

      HAWLIAU O RAN EIDDO DEALLUSOL

      Oni nodir yn wahanol, Llais y Goedwig sydd biau eiddo deallusol y wefan hon a’r deunydd sydd arni.

      TRWYDDED I DDEFNYDDIO’R WEFAN HON

      Wrth ddefnyddio gwefan www.llaisygoedwig.org.uk gallwch edrych ar ddeunydd, lawrlwytho at ddibenion storio ac argraffu tudalennau. Fodd bynnag, mae’r amodau canlynol yn berthnasol:

      Ni ddylai deunydd o’r wefan hon gael ei ailgyhoeddi ar unrhyw ffurf neu gael ei atgynhyrchu na’i storio ar unrhyw wefan neu system adalw arall heb ein caniatâd penodol. Ni chaniateir i chi gopïo, gwerthu, ailwerthu neu fanteisio mewn unrhyw fodd arall ar y deunydd sydd ar ein gwefan at ddibenion masnachol. Ni ddylid golygu nag addasu deunydd ar ein gwefan mewn unrhyw ffordd. Gall defnydd heb awdurdod o’r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu gall fod yn drosedd.

      CYFYNGIADAU ATEBOLRWYDD

      Rhoddir yr holl wybodaeth ar y wefan hon yn rhydd ac yn ddi-dâl. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar ein gwefan yn gywir; fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu ei gywirdeb, prydlondeb, perfformiad, cyflawnrwydd, nac addasrwydd. Gall y cynnwys ar y wefan hon newid yn ddi-rybudd. Ni allwn gael ein dal yn atebol mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth a ddarperir. Mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth ar y wefan hon yn gyfan gwbl ar eich risg eich hun, ac ni fyddwn yn atebol amdano. Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ein gwefan ar gael, fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu y bydd yn gweithio bob amser.

      O bryd i’w gilydd, gall y wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i ddarparu rhagor o wybodaeth. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn cymeradwyo’r gwefannau hynny. Nid oes gennym gyfrifoldeb, ac ni ellir ein dal yn atebol, am gynnwys unrhyw wefan gysylltiedig.

      Mae eich defnydd o’r wefan hon, ac unrhyw anghydfod sy’n deillio o ddefnydd o’r fath, yn ddarostyngedig i gyfreithiau Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, a Chymru.

      CYSYLLTU Â NI

      Os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â’n Polisi Cwcis neu unrhyw fater arall, gallwch ysgrifennu atom i’n cyfeiriad post:

      Llais y Goedwig
      Uned 1, Parc Eco Dyfi
      Machynlleth
      Powys
      SY20 8AX

      Neu, os hoffech anfon e-bost atom, defnyddiwch ffurflen gyswllt y wefan hon. Cyfeiriad gwe’r ffurflen gyswllt yw: www.llaisygoedwig.org.uk/cysylltu-a-ni/


        Polisïau’r wefan wedi’u diweddaru ddiwethaf: Mawrth 2023


              

          

           





        ©2024 Llais y Goedwig