Buddion
Buddion
Buddion Coetiroedd Cymunedol
Lle arbennig i’r gymuned
Beth yw manteision cael coetir cymunedol? Yr ateb syml gan grwpiau ledled Cymru fyddai ‘llwythi!’
Yn gyntaf, mae’n ymdeimlad o le – cysylltu pobl â’r tir. Pan ydych yn cerdded i goetir cymunedol gyda rhywun o’r gymuned, mae’n amlwg ei fod yn lle arbennig, ei fod yn bwysig iddynt hwy mewn ffordd sy’n wahanol i goetir sy’n cael ei reoli gan asiantaeth neu dirfeddiannwr.
Mae ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb am goetir yn llawer o waith, ond mae hefyd yn gyfle i fod yn greadigol, dod â theuluoedd i’r coetir a gwella adnodd gwerthfawr. Yn syml, gall y buddion fod yn rhai amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Buddion amgylcheddol
Yn aml y brif flaenoriaeth i grwpiau coetiroedd cymunedol yw cadwraeth natur – sicrhau y gofalir am y goedwig a’i bod yn gartref i sawl amrywiaeth o goed a phlanhigion ac anifeiliaid.
Mae’n bosibl bod rhai coetiroedd wedi’u hesgeuluso am flynyddoedd; mae’n bosibl eu bod wedi’u fandaleiddio, eu defnyddio ar gyfer tipio anghyfreithlon neu heb eu rheoli oherwydd diffyg adnoddau gan y tirfeddiannwr neu fod gwneud hynny yn aneconomaidd.
Yn aml mae coetiroedd cymunedol yn cael eu gwarchod gan wirfoddolwyr brwd sy’n barod i dreulio amser yn gwarchod coetiroedd. Prif waith gwirfoddolwyr yw cadwraeth neu welliant amgylcheddol. Gall hyn gynnwys cynnal a chadw, tocio, cael gwared ar rywogaethau goresgynnol estron, annog bioamrywiaeth, creu llwybrau a chynnal waliau a phlannu coed.
Mae’r gwaith a wneir gan grwpiau megis Coed Cwm Penllergare yn adfer coetiroedd wedi’u hesgeuluso er mwyn iddynt fod yn rhan o dirlun traddodiadol Cymru, yn un o fuddion sylweddol rheolaeth gymunedol.
Buddion cymdeithasol
Mae ystod enfawr o weithgareddau hamdden yn digwydd mewn coedwigoedd a choetiroedd ledled Cymru: beicio, cerdded cŵn, theatr a phicnics ymhlith llawer mwy. Mae nifer o deuluoedd yn fodlon defnyddio’r cyfleusterau a ddarperir gan asiantaethau sy’n berchen ar dir, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, neu drefnu digwyddiadau rheolaidd heb ymgymryd â rhagor o gyfrifoldebau.
Mae coetir cymunedol yn rhoi’r cyfle i drefnu amrywiaeth eang o weithgareddau – cymaint ag y gall pobl feddwl amdanynt! Mae gweithgareddau cymdeithasol yn amrywio o grwydro’r goedwig a mwynhau’r llonyddwch a’r harddwch i ddigwyddiadau wedi’u trefnu – dyddiau hwyl, theatr, gweithdai crefft, ysgolion coedwig i blant, cerfluniau a’r celfyddydau ac mae digwyddiadau corfforol ac iechyd a lles hefyd yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae enghreifftiau megis coetir cymunedol Golygfa Gwydyr yn dangos sut mae’r rhain i gyd yn cyflwyno cyfleoedd i gymdeithasu, gwneud ymarfer corff, teimlo’n well, dysgu a chael hwyl.
Buddion economaidd
Dros amser, mae rhai grwpiau coetiroedd cymunedol yn gweld y potensial i gynaeafu coed tân, pren a chynnyrch eraill o’u coedwigoedd yn gynaliadwy – efallai ei bod hi’n syniad sicrhau nad yw’r coetiroedd yn dibynnu ar grantiau i gynnal eu gweithgareddau yn y coetir neu efallai y byddant eisiau creu sgiliau a swyddi lleol.
Mae sefydlu menter gymdeithasol i helpu i wella sgiliau, creu swyddi a chyflenwi cynnyrch i farchnadoedd lleol yn ddilyniant naturiol i rai grwpiau coetiroedd cymunedol; gall coetiroedd cymunedol gyflwyno buddion economaidd hefyd.
Nid yw’r llwybr hwn yn addas i bob grŵp ac mae lefel ychwanegol o gyfrifoldeb wrth i’r grŵp ddod yn gyflogwr ac yn sefydliad masnachu. Mae sawl coetir cymunedol yng Nghymru wedi ymgymryd â’r llwybr hwn ac mae eu profiadau yn amrywio yn dibynnu ar eu hamgylchiadau eu hunain. Mae mwyfwy o aelodau Llais y Goedwig yn ystyried yr opsiwn hwn ac sy’n fodlon rhannu eu profiadau.
Mae grwpiau coetiroedd cymunedol, megis Blaen Brân a Llangatwg a sefydliadau wedi ennill dealltwriaeth am farchnadoedd, ac mae ganddynt brofiad o greu swydd ddisgrifiadau, trefnu yswiriant cyflogwr, rhoi hyfforddiant a datblygu sgiliau. Mae rhai o’r marchnadoedd mae coetiroedd cymunedol yn cymryd rhan ynddynt yn cynnwys coed tân, golosg, dodrefn coed gwyrdd a defnyddio’r coetiroedd fel lleoliad ar gyfer gweithgareddau awyr agored (o leoliad gwyliau i amgylchedd hyfforddiant ymarferol). Mae ymchwil a dogfennaeth gynyddol mewn perthynas â’r maes hwn gan sefydliadau megis Forest Research UK a Shared Assets hefyd.