Rydym yn falch o gyhoeddi bod cyfres o Ganllawiau Casglu Hadau bellach ar gael i’w lawrlwytho!
Y cyntaf i roi’r canllawiau ar waith oedd y grŵp coetir cymunedol Llyn Parc Mawr, a leolir ger Niwbwrch ar Ynys Môn. Cynhaliwyd digwyddiad casglu hadau ar 23 Tachwedd. Yma treuliodd wyth gwirfoddolwr y diwrnod gyda dau aelod o staff, gan gasglu 15 rhywogaeth wahanol o hadau coed gan gynnwys rhosyn gwyllt, draenen wen ac afalau surion.
Dywedodd Tim Peters o Lyn Parc Mawr fod ‘y diwrnod ei hun wedi mynd yn dda iawn a’i fod yn weithgaredd gwych i’w wneud wrth gynnal pellter cymdeithasol. Daethom â’r diwrnod i ben o amgylch y tân, cawsom ddiodydd poeth i gynhesu a chwpanaid o gawl llysiau oedd mawr ei angen, a wnaed yn hael gan Chris, ein Hysgrifennydd, aelod o’r bwrdd a’r prif wirfoddolwr bwydo gwiwerod coch! Diolch i’r Rhaglen Casglu Hadau am ddarparu’r adnoddau technegol amhrisiadwy hyn i ni.’
Yn ystod yr hydref yma yn Llais y Goedwig lansiwyd y Rhaglen Casglu Hadau gan y Prosiect Dewis Gwyllt, gyda chefnogaeth gan Goed Cadw. Cafwyd ymateb gan lu o grwpiau coetir a pherchnogion coetiroedd preifat o bob rhan o Gymru i arolwg y Rhaglen Casglu Hadau, gan ddangos diddordeb brwd mewn casglu hadau coed o darddiad lleol a datblygu meithrinfeydd ar raddfa fach. Datblygwyd y canllawiau wedyn i roi gwybodaeth ymarferol ac i amlinellu’r gofynion cyfreithiol cysylltiedig.
Mae cysylltiadau â meithrinfeydd coed yng Nghymru bellach wedi’u sefydlu a bydd treial masnachu’n cael ei gynnal yn y flwyddyn nesaf. Yma, gan ddefnyddio’r canllawiau newydd, bydd grwpiau a pherchnogion coetiroedd yn cael y cyfle i werthu eu hadau i fasnachwr cofrestredig. Mae llawer o grwpiau eisoes wedi cofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan – os hoffech gymryd rhan, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Lucy Kew, Rheolwr Prosiect Dewis Gwyllt ar 07877 574607, neu drwy e-bost: lucy@llaisygoedwig.org.uk
I lawrlwytho eich copïau* am ddim, cliciwch ar enwau’r canllawiau isod!
Casglu hadau coed at eich defnydd eich hun
Casglu hadau coed ar gyfer gwerthu uniongyrchol
Casglu hadau coed i’w gwerthu i fasnachwr cofrestredig
Sefydlu meithrinfa goed ar raddfa fach
Rhwymedigaethau cyfreithiol wrth gasglu hadau coed yng Nghymru
*Sylwch fod rhai o’r canllawiau hyn wrthi’n cael eu cyfieithu ac y byddant ar gael cyn bo hir. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.