Cynnig i grwpiau – Hydref 2021

Posted on October 18, 2021 by

Cynnig i grwpiau – Hydref 2021 – ystod o gefnogaeth cyrsiau a chyfleoedd rhwydweithio i helpu eich gwaith coetir Hydref

 

A fyddai adnewyddiad o fudd i’ch cynllun rheoli coetir? Rydym yn ffodus o gael nifer o aelodau staff medrus iawn a all eich helpu i ddiweddaru a chyflwyno eich cynlluniau. Cysylltwch â plans@llaisygoedwig.org.uk i gofrestru eich diddordeb.

 

A ydych chi’n cynnal digwyddiadau Iechyd a Llesiant yn eich coetir? Ymunwch â’n cyfarfodydd misol i rannu profiadau, cynghorion a chefnogaeth gydag ymarferwyr Iechyd a Llesiant Coetir Cymunedol – cysylltwch ag admin@llaisygoedwig.org.uk i sicrhau eich bod yn rhan o’r sgwrs!

 

Cwrs Mesur a Rheoli Gwerth Cymdeithasol – mae gennym leoedd ar gyfer hyd at 20 aelod (uchafswm o 2 o bob grŵp) ar gwrs Gwerth Cymdeithasol Cymru ar fesur a rheoli effeithiau gwerth cymdeithasol eich gwaith. Mae’r cynnig yn cynnwys cefnogaeth ar ôl y cwrs gan Gwerth Cymdeithasol – cysylltwch â booking@llaisygoedwig.org.uk am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle. Cynhelir y cwrs ar foreau 22, 25 a 29 Tachwedd a 2 Rhagfyr.

 

Arolwg Iechyd Coetir – dewch ar ein taith hunan-dywys o’ch coetir i adnabod a mapio beth sydd yno, gwirio datblygiad a chynllunio rhaglen o waith gwella. Cysylltwch â Hywel@llaisygoedwig.org.uk am becyn i’w lawrlwytho a gofynnwch i’ch Swyddog Datblygu lleol am gefnogaeth wrth gychwyn arni

 

Ymunwch â’r tîm Dewis Gwyllt am ystod gyffrous o weithdai gaeaf ar arbed hadau a meithrinfeydd coed – a wnaed yn bosibl drwy ein gwaith ar y cyd gyda’r Woodland Trust. Cliciwch yma am ragor o fanylion

Posts by date

November 2021
M T W T F S S
« Oct    
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930  

Search Blog

  Locate Community
Woodlands
 
     
  Join Us