Ymgymryd â Pholisi

Ers ei ddechrau, mae Llais y Goedwig wedi ymateb i ymgynghoriadau agored Llywodraeth Cynulliad Cymru ac wedi cael gwahoddiad i roi sylwadau ar bapurau  safle strategol gan y Comisiwn Coedwigaeth.  Yn dibynnu ar y natur a’r amseriad (sydd yn aml yn gyfyng) mi fydd y Bwrdd yn un ai:

- gwneud yr ymgynghoriad yn hysbys, gwahodd aelodau i anfon eu sylwadau a chyda’r rhain ffurfio ymateb i gynrychioli barn dorfol yr aelodaeth

- ymateb fel Bwrdd i wneud cynrychiolaeth ar ran diddordebau cymuned ar fater pan nad oes amser i wneud arolwg barn yr aelodau

Ymhob achos, rhoddir rhybudd o ymgynghoriad agored ar y tudalennau yma.  Gwahoddir sylwadau gan unrhyw aelod ar unrhyw fater.  Bydd copi o ymatebion Llais y Goedwig i ymgynghoriadau hefyd yn cael eu rhoi ar y tudalennau yma.

Ymgynghoriadau agored

Cymru fyw

Mae ein tir, ein moroedd a’n hawyr ni’n darparu inni amrywiaeth eang o wasanaethau hanfodol. Maent yn ein galluogi i greu gwerth biliynau o bunnoedd o gyflogaeth ac enillion, yn cynnig inni iechyd, adloniant, chwaraeon a chyfleoedd dysgu, yn darparu dŵr croyw ac yn atal llifogydd, yn amsugno ein llygredd ni, yn cynhyrchu ein bwyd, ein hynni a’n pren ni, ac yn cynnal ein bywyd gwyllt ni. Mae’r amgylchedd yn cyfrannu o leiaf £8.8 biliwn i economi Cymru pob blwyddyn. Cynhalia un swydd ym mhob chwech. Gallai fod yn rhagor fyth.

Hyd yn hyn, tueddom ni i edrych ar rannau o’r amgylchedd ar wahân, yn hytrach na’u rheoli nhw’n systemau. Golyga hyn inni fethu â sylweddoli pwysigrwydd llawn yr amgylchedd yn ein bywydau ni, a gwerth y gwasanaethau y mae’n eu darparu. Bu inni ganolbwyntio ar amddiffyn rhywogaethau a chynefinoedd prinion neu ddiddorol, ac ymateb i bwysau unigol fesul un. Llwyddodd y dull tafellog hwn o reoli a chadw’r amgylchedd i raddau, a chafodd beth cefnogaeth y rhai sydd â’u gweithgareddau nhw’n effeithio ar natur.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn ymgynghori ynghylch Cymru Fyw – fframwaith newydd ar gyfer ein hamgylchedd, ein cefn gwlad a’n moroedd ni. Mae’r Fframwaith Amgylchedd Naturiol (FfAN) newydd hwn yn canolbwyntio ar reoli cyfangorff ein hamgylchedd ni, yn hytrach nag ar rannau ar wahân.

Yn rhan o’r ymgynghoriad, mae LlCC wedi sefydlu tair ffrwd waith i edrych ar elfennau penodol: rheoleiddio a rheoli; partneriaethau; a thystiolaeth. Dymuna’r ffrwd rheoleiddio a rheoli ddadansoddi’r ddeddfwriaeth a’r rheoleiddio presennol sy’n effeithio’n uniongyrchol neu fel arall ar reoli ein hamgylchedd ni. Y diben yw canfod yr hyn sy’n gweithio, yr hyn nad yw’n gweithio, a’r hyn y gellid ei wella, un ai yn ei ffurf neu yn ei weithrediad.

Cam cyntaf y dadansoddiad hwn fu i’r ffrwd waith gomisiynu Accent, cwmni ymchwil masnach annibynnol, i gynnal arolwg barn rheolwyr a rheolyddion amgylcheddol pwysig; diwydiant; ymgynghorwyr a chynghorwyr ynghylch effeithiolrwydd y fframwaith rheoleiddiol presennol wrth gyflawni canlyniadau disgwyliedig, a cheisio barn ynghylch sut y gellid ei wella ar gyfer rheoli’r amgylchedd mewn modd mwy cynaliadwy a chyfunol.

Croesawem eich barn chi, a gwahoddwn ni chi i gwblhau’r arolwg canlynol, gan roi inni eich barn chi ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio, yr hyn nad yw, a beth allai weithio’n well. Mae’n wirioneddol bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod inni am y da yn ogystal â’r gwael.

Mae Accent wedi’u cofrestru o dan y Ddeddf Gwarchod Data, ac yn cydymffurfio â Chod Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil Masnach. Golyga hynny y bydd unrhyw atebion a roddwch yn gyfrinachol ac yn ddienw.

Dylai’r holiadur gymryd rhwng 5 a 10 munud i’w gwblhau. Gallwch ei gwblhau fesul dipyn, os dymunwch. Mae hefyd yn caniatáu i chi ateb cwestiynau am 5 deddf. Er cyfleuster, gallwch fwydo a chadw’r holiadur cymaint o weithiau ag y dymunech: ond ni allwch newid eich ymateb wedi i chi ei gyflwyno.

Er mwyn ymuno, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod, lle gwahoddir chi i gwblhau’r arolwg yn Gymraeg neu’n Saesneg.

http://surveys.accent-mr.com/survey10/2210.aspx?urn=X6y747TMMIqW

Byddem ddiolchgar pe gallech chi gwblhau’r arolwg erbyn y 7eg o Mawrth 2011.

Cynhelir yr arolwg hwn ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rhennir yr wybodaeth â phartneriaid yn yr ymgynghoriad Fframwaith Amgylchedd Naturiol.

Diolch i chi am drafferthu i helpu datblygu a gwella polisïau sy’n helpu’r amgylchedd naturiol yng Nghymru.

Mesur Lles Cenedlaethol – Yr hyn sy’n bwysig i chi?

Ddaw i ben 15 Ebrill, 2011

Nod y Prosiect Mesur Lles Cenedlaethol yw creu darlun llawnach o ‘gyflwr y gymdeithas’ na’r hyn a geir gan ddangosyddion economaidd fel CMC. Mae deall perfformiad economaidd y wlad yn bwysig, ond mae hefyd angen edrych ar fesurau ehangach megis dangosyddion ‘ansawdd bywyd’, a’r effaith y mae cynnydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Bydd y mesurau mwyaf dibynadwy yn cynnwys yr elfennau bywyd sydd o’r pwys mwyaf i bobl, a dyna pam mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal trafodaeth genedlaethol i gael gwybod beth yw’r rhain.

Ar hyn o bryd (diwedd mis Ionawr) mae mwy na 3,000 o ymatebion i’r drafodaeth a rhai o’r prif themâu sy’n dod i’r amlwg yw:

• plant a’r dyfodol, mae pobl yn pryderu am ansawdd bywyd y bydd eu plant yn ei gael fel oedolion

• rhyddid

• cydraddoldeb a thegwch

• iechyd

• sicrwydd swyddi (nid o reidrwydd cyfoeth)

• ysbrydolrwydd / ffydd / crefydd

• pa mor bwysig yw amgylchedd lleo o ansawdd da yn, yn enwedig cael mynediad i fannau gwyrdd.

Bydd y drafodaeth genedlaethol yn digwydd rhwng mis Tachwedd 2010 ac Ebrill 2011, a bydd y canfyddiadau yn llywio datblygiad y mesurau a fydd yn cael eu defnyddio i olrhain lles y genedl. Gallwch gymryd rhan yn y drafodaeth drwy ymweld â gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: www.ons.gov.uk / lles, ffonio 0845 601 5075 neu ein dilyn ni ar www.twitter.com / statisticsONS.

Mae anogaeth weithredol i bobl siarad am beth sy’n bwysig iddynt, ar gyfer grwpiau i gynnal eu trafodaethau ac arolygon eu hunain ac yna bwydo’r  ymatebion i mewn er mwyn i ni eu casglu. Y mwya o ymatebion a gawn a’r mwya y bydd pobl yn siarad am yr hyn sydd o bwys iddynt yna y mwyaf realistig fydd ein darlun o’r DU.

Os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch ag Alex Cooke yn alex.cooke @ ons.gsi.gov.uk neu ar 01633 456356.

Ymgynghoriadau a ddaeth i ben

*    Ymgynghoriad Byw Cymru (Cymru Fyw) Ymateb LlyG: LlyG a Cymru Fyw
*    Ymgynghoriad rhanddeiliaid Camau Cyntaf First_Steps_Consultation_LlyG
*    Strategaeth Coedlannau i Gymru – ein hymateb i holiadur yr ymgynghoriad
*     DRAFFT Lefel 2 Addysg a Sgiliau Dysgu
*     Ffurflen Adborth Rhanddeiliaid (Ar gyfer dogfen Dysgu Addysg a Sgiliau)

Leave a Reply

  

  

  

You can use these HTML tags

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>