Mae Darllenydd Newid yn yr Hinsawdd Llais y Goedwig yn lyfryddiaeth anodedig o bapurau, adroddiadau a thaflenni cynghori sy’n crynhoi’r wyddoniaeth y tu ôl i newid yn yr hinsawdd a chyngor cyfredol ar beth allai ein hymateb i hyn fod.
Mae’r pynciau sydd i’w cael yn y Darllenydd yn cynnwys:
(a) Newidiadau a ragwelir i strwythur a swyddogaeth coedlan sy’n deillio o newid yn yr hinsawdd yng Nghymru
(b) Argymhellion ar gyfer cynyddu a gwella gwydnwch coedlannau Cymru a bioamrywiaeth
(c) Cyfraniad coedlannau cymunedol tuag at ddal a storio carbon ac fel ffynhonnell o ynni adnewyddadwy a deunyddiau adeiladu.
Gellir prynu’r Darllenydd ar ffon USB am £ 7 o Swyddfa Llais y Goedwig – cysylltwch â Chloe Griffiths os hoffech chi gael un. Gallwch hefyd gael mynediad ati ar-lein o’r fan hon:
Cliciwch yma am fersiwn ar-lein o Darllenydd Newid yn yr Hinsawdd
Bydd Adam Thorogood yn cyfweld â rhai grwpiau coedlan cymunedol i ddeall mwy am y ffordd yr ydym yn cael ein heffeithio gan newid yn yr hinsawdd. Cysylltwch ag Adam drwy’r ffurflen adborth ar y dudalen Cysylltwch â ni os hoffech gyfrannu at y prosiect hwn.
NODER: Gallwn argraffu cyhoeddiadau dethol ar gais ar gyfer pobol sydd heb fynediad at gyfrifiadur.
Cafodd Darllenydd Newid yn yr Hinsawdd ei baratoi gan Adam Thorogood a gefnogwyd gyda grant Camau Nesaf gan Amgylchedd Cymru.
