Digwyddiadau

Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Llais y Goedwig

Rhaglen Cynhadledd ar gael! Rhaglen – Cynhadledd a ChCB Llais y Goedwig 2012_Cymraeg

Cynhelir Cynhadledd a ChCB Llais y Goedwig 2012 ar y 9fed a’r 10fed o Fawrth 2012 (Gwener a Sadwrn) ac mae modd ichi archebu lleoedd rwan! Ffurflen Archebu lle yn y Gynhadledd a’r CCB- Cymraeg

Llais y Goedwig conference and AGM flyer 2012 bilingual

Cyffrous yw cyhoeddi y cynhelir y gynhadledd eleni yn adeilad arloesol Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Gynaliadwy yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, Canolbarth Cymru. Am fwy o fanylion am yr adeilad gweler http://info.cat.org.uk/wise

I gael manylion am waith CDA (CAT) ewch i http://www.cat.org.uk  Bydd pawb sy’n dod yn cael mynediad am ddim i’r safle ac yn medru edrych o gwmpas yr arddangosfa yno. Gobeithiwn hefyd drefnu teithiau arbennig i weld eu boileri tanwydd coed a’u coetir yn ogystal ag ymweliadau â choetiroedd cymunedol lleol.

There are unique opportunities to stay at the site at CAT on the Friday night- one option in the new WISE building itself, with dinner and a twmpath booked for the Friday evening. We are lucky to be joined by local twmpath band and caller- The Backroom Band- click HERE to see details of their award winning musicians.

The Backroom Band is one of the most experienced and lively ceilidh bands in Wales. This musical powerhouse from Aberystwyth, Ceredigion, West Wales has been getting people dancing in mid Wales and beyond for over 25 years. Our music and dances draw on the rich traditional folk repertoire of Wales, Ireland, England and Scotland.

Dylai fod yn benwythnos ysbrydoledig a chofiadwy felly dychwelwch eich ffurflen archeb yn fuan!

Er mwyn archebu lle dychwelwch y ffurflen isod i Jo cyn gynted â bo modd os gwelwch yn dda.
Ffurflen Archebu lle yn y Gynhadledd a’r CCB- Cymraeg

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Jo: jo.cooper@llaisygoedwig.org.uk

Cyfarwyddiadau teithio i CCB

Rhaglen:
Thema’r rhaglen eleni yw “Cyfranogaeth” – a’r hyn a olygir yw cymeryd rhan ac ymwneud â mentrau coetir a mentrau’n seiliedig ar goedwigoedd ar lefel leol yn ogystal â chenedlaethol; edrych ar sut i’w feithrin a’i gynnal. Efallai i’ch grŵp fynd drwy gyfnodau pan mae llawer o aelodau’n cymryd rhan ac adegau eraill pan mae’r niferoedd yn gostwng.  Byddwn yn trafod dulliau o ddenu sylw pobl ac annog lefel gynaliadwy o gyfranogi. Yn ogystal â chael llawer o gyfleoedd i rannu profiadau, bydd y gymanfa flynyddol bwysig hon yn cynnwys cyfle i ddatblygu a siapio maniffesto ar gyfer dyfodol coetiroedd Cymru, a dysgu am y datblygiadau diweddaraf ym mholisi coedwigoedd Cymru.