Hanes

Y stori hyd yma …

Mae’r syniad o gorff i gynrychioli a chefnogi coedlannau cymunedol wedi ei drafod nifer o weithiau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ym Mawrth 2008 penderfynodd Cynhadledd Rhwydweithio Coedlannau yn CAT ffurfio Fforwm Coedlannau Cymunedol Cymru a gefnogid gan Coed Lleol. Sefydlwyd gweithgor er mwyn datblygu strwythur, dull o lywodraethu a gweithgareddau’r Fforwm, gan dynnu sylw at flaenoriaethau ac unrhyw broblemau posibl.

Yng nghyfarfod cyntaf y gweithgor ym mis Gorffennaf 2008 penderfynwyd ailenwi’r fforwm a’i galw’n Gymdeithas Coedlannau Cymunedol Cymru, mabwysiadu cyfansoddiad a phenderfynu ar feini prawf ar gyfer nodau ac amcanion ffurfiol ac aelodaeth.

Cyfansoddiad 3ydd Tach 2008 – 2il Mawrth 2010 Llais y Goedwig constitution 3-11-08

Cofnodion cyfarfodydd Grŵp Gweithredol y Sefydliad

3ydd Gorffennaf 2008

4ydd Medi 2008

4ydd Tachwedd 2008

Cafodd Llais y Goedwig ei lansio’n gyhoeddus ar y 10fed o Chwefror gan Elin Jones the Gweinidog Materion Gwledig.   Dilynwyd hyn gan lansiad yng Ngogledd Cymru yn Glastir, Llanwrst ar yr 20fed o Chwefror 2009.

Yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol cyntaf y sefydliad yn Llanbedr ar yr 21ain o Dachwedd 2009, penderfynwyd ffurfioli cyfansoddiad Llais y Goedwig trwy ei wneud yn Gwmni Cyfyngedig drwy warant.   Ffurfiwyd ac arwyddwyd Memorandwm ac Erthyglau’r Cwmni gan y Bwrdd ar y 3ydd o Fawrth 2010.

Leave a Reply

  

  

  

You can use these HTML tags

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>