Mae Llais y Goedwig yn gymdeithas wedi ei chreu gan grwpiau coedlannau cymunedol yng Nghymru er mwyn cefnogi ein gilydd ac i gynrychioli buddiannau grwpiau coetir yng Nghymru sy’n cael eu harwain gan eu cymunedau.
Mae Coedlan Gymunedol yn goedlan i bobl. Gallant fod yn eiddo i ac yn cael eu rheoli gan grŵp cymunedol gyda chyfansoddiad, neu gael eu hanwylo, neu’n bwysicach fyth, cael eu defnyddio gan bobl lleol. Gall coedlannau cymunedol fod yn unrhyw fath o goedlan, bach neu fawr, naill ai mewn ardal drefol neu wledig, a gall lefel cyfranogiad cymunedol amrywio o le i le.
Mae grwpiau coedlannau cymunedol lleol yng Nghymru yn cyflenwi ystod eang o fanteision cyhoeddus a chymunedol, gan gynnwys cyfleusterau hamdden, gwarchod bioamrywiaeth, datblygiad gwledig, swyddi, ynni adnewyddol, tanwydd, coed, cynhyrchion eraill y goedlan, cyfleoedd ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol ac addysg awyr agored.
