Newid yn yr hinsawdd

Rydym yn datblygu yr adran hon o’r wefan fel adnodd ar gyfer gwybodaeth a syniadau am sut y dylai coedlannau cymunedol ymateb i newid yn yr hinsawdd. Fel rheolwyr coedlannau mae angen i ni fod yn ymwybodol o:

- yr effaith y gallai newid yn yr hinsawdd ei gael ar brosesau a rhywogaethau coedlan – yr ymateb i hyn yw cynyddu gwydnwch ein coedwigoedd

- y cyfraniad y gall dal carbon mewn coed a choetiroedd ei wneud i leihau neu liniaru newid yn yr hinsawdd

- y cyfraniad y gall defnyddio adnoddau lleol coedlan ei wneud i leihau ôl-troed carbon ein cymunedau hy hwyluso’r trawsnewid i fyw’n ddi-garbon cynaliadwy
Rydym yn croesawu eich barn ar y pynciau hyn a thros y flwyddyn nesaf gyda bwriad o baratoi safbwynt Llais y Goedwig ar y materion hyn fel ffynhonnell o gyngor ystyriol ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru sydd, efallai, yn ei chael hi’n anodd i gysoni pentyrrau o ddeunydd sydd weithiau’n gwrthdaro ar y pynciau hyn.

Papurau i’w lawrlwytho am garbon yn ucheldir Prydain

Downloadable papers on carbon in upland Britain

Leave a Reply

  

  

  

You can use these HTML tags

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>