Rhaglen Cynhadledd ar gael! Rhaglen – Cynhadledd a ChCB Llais y Goedwig 2012_Cymraeg
Cynhelir Cynhadledd a ChCB Llais y Goedwig 2012 ar y 9fed a’r 10fed o Fawrth 2012 (Gwener a Sadwrn) ac mae modd ichi archebu lleoedd rwan! Ffurflen Archebu lle yn y Gynhadledd a’r CCB- Cymraeg
Llais y Goedwig conference and AGM flyer 2012 bilingual
Cyffrous yw cyhoeddi y cynhelir y gynhadledd eleni yn adeilad arloesol Sefydliad Cymru ar gyfer Addysg Gynaliadwy yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, Canolbarth Cymru. Am fwy o fanylion am yr adeilad gweler http://info.cat.org.uk/wise
I gael manylion am waith CDA (CAT) ewch i http://www.cat.org.uk Bydd pawb sy’n dod yn cael mynediad am ddim i’r safle ac yn medru edrych o gwmpas yr arddangosfa yno. Gobeithiwn hefyd drefnu teithiau arbennig i weld eu boileri tanwydd coed a’u coetir yn ogystal ag ymweliadau â choetiroedd cymunedol lleol.
Mae cyfleoedd gwych i aros ar y safle yn y GDA ar y nos Wener – un dewis yw adeilad newydd SCAG (WISE) ei hun, gyda chinio a thwpath wedi eu trefnu ar gyfer y nos Wener. Rydym yn ffodus fod band twmpath lleol o’r enw ‘The Backroom Band’ am ymuno efo ni – cliciwch YMA i gael golwg ar ei gerddorion arobryn.
Dylai fod yn benwythnos ysbrydoledig a chofiadwy felly dychwelwch eich ffurflen archeb yn fuan!
Er mwyn archebu lle dychwelwch y ffurflen isod i Jo cyn gynted â bo modd os gwelwch yn dda.
Ffurflen Archebu lle yn y Gynhadledd a’r CCB- Cymraeg
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Jo: jo.cooper@llaisygoedwig.org.uk
Rhaglen:
Thema’r rhaglen eleni yw “Cyfranogaeth” – a’r hyn a olygir yw cymeryd rhan ac ymwneud â mentrau coetir a mentrau’n seiliedig ar goedwigoedd ar lefel leol yn ogystal â chenedlaethol; edrych ar sut i’w feithrin a’i gynnal. Efallai i’ch grŵp fynd drwy gyfnodau pan mae llawer o aelodau’n cymryd rhan ac adegau eraill pan mae’r niferoedd yn gostwng. Byddwn yn trafod dulliau o ddenu sylw pobl ac annog lefel gynaliadwy o gyfranogi. Yn ogystal â chael llawer o gyfleoedd i rannu profiadau, bydd y gymanfa flynyddol bwysig hon yn cynnwys cyfle i ddatblygu a siapio maniffesto ar gyfer dyfodol coetiroedd Cymru, a dysgu am y datblygiadau diweddaraf ym mholisi coedwigoedd Cymru.

