Rheoli Rhanddeiliaid Coetiroedd Glastir

Ddydd Mawrth bu Jenny yng nghyfarfod Rheoli Rhanddeiliaid Coetiroedd Glastir ar ran LlyG ac mae ganddi’r newyddion canlynol i’w adrodd:

-           Bydd cynllun Rheoli Coetir Glastir yn agored i geisiadau am tua 3 mis o fis Ionawr 2012.  Mae hwn ar gyfer rheoli coetiroedd sy’n bodoli eisoes ac yn wahanol i gynllun Creu Coetir Glastir.  Ymddengys bod y broses ymgeisio yn weddol syml a fydd yn golygu ymweliad gan gynllunydd Coetir i gynnig cyngor ar y math o waith gaiff ei ariannu fyddai’n cyflawni’r prif amcanion amgylcheddol/ bioamrywiaeth ar gyfer eich coedwig.  Dylech gael gwybod yn fuan os cewch eich derbyn ar y cynllun ond ni fydd y cytundebau’n cychwyn tan 1 Ionawr 2013 a byddant yn rhedeg am 5 mlynedd.

-           Os dymunwch gynnig eich coedwig ar gyfer y cynllun byddwch angen rhif CRN.  Os ydych eisoes yn CGG, bydd gennych rif CRN yn barod – ond os ddim, mae’n syniad cael eich rhif yn awr.  Os nad ydych yn sicr beth yw rhif CRN neu sut i gael un yna cysylltwch â Jo ac fe wnawn ein gorau i’ch cynorthwyo.

-           Os ydych eisoes yn CGG ymddengys y byddai modd gwneud cais am Glastir hefyd ond DDIM OND ar gyfer gweithgareddau nad ydynt eisoes yn eich CGG neu am barseli o dir sydd ddim yn y cynllun yn barod.
-           Bydd hysbyseb am bobl i wneud cais am gael bod yn gynllunydd Coetir Glastir yn ymddangos ar Sell2Wales yn fuan iawn.  Os hoffech wneud cais ond heb gofrestru gyda Sell2Wales yna cysylltwch â Jo a gallwn anfon yr hysbyseb atoch unwaith y mae’n ymddangos.

-           Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn dechrau ar y broses o lunio syniadau ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf – h.y. cyllid grant, gan gynnwys cynllun Arweinydd Glastir ac ati  o 2014 ymlaen. Caiff Llais y Goedwig ei gynnwys fel un o’r rhan-ddeiliaid y bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn gweithio gyda hwy ar y Cynllun Datblygu Gwledig. Mae hyn yn newyddion gwych a phwysicach fyth yw cael ein Maniffesto’n barod – gweler http://llaisygoedwig.org.uk/what-we-do/engage-with-policy/  i gael gwybod beth a wnaed hyd yma. A fyddwch cystal â rhoi gwybod i ni am eich syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio grantiau ac ati i gefnogi datblygiad coetiroedd cymunedol – gallwch ychwanegu at y blog ar y wefan http://llaisygoedwig.org.uk/2011/08/12/a-llyg-manifesto/, y dudalen Facebook http://www.facebook.com/pages/Llais-y-Goedwig/  Neu ar y ffôn, post, e-bost uniongyrchol ac ati at Jo neu Jenny.

Leave a Reply

  

  

  

You can use these HTML tags

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>